Ydych chi’n barod i’r her? Her gair Geirfa Garddio!

Bob wythnos dros y tymor garddio 2017 byddwn yn gosod Gair Yr Wythnos.

Tynnwch lun… rhannwch sylwad… sgwennwch gerdd hyd yn oed! Ond sut bynnag dych chi’n defnyddio’r gair, cofiwch ddefnyddio’r hashnod #geirfagarddio er mwyn i bobl eraill glywed amdani.

Hoffech dderbyn Gair Yr Wythnos trwy e-bost? Danfonwch neges i ni!

A’r gair cyntaf, am wythnos 10-16 Ebrill? ‘Gardd.’ Ewch ati!